Mae’r YHA Snowdon Pen-y-Pass wedi ennill gwobr ryngwladol fawreddog HOSCAR.
Mae’r hostel ieuenctid 5 seren, sydd ger Caernarfon, wrth droed Yr Wyddfa, wedi cael ei henwi’n Hostel Orau Cymru yn 2024 gan Hostelworld. Cyhoeddwyd yr enillydd yn dilyn pleidlais gyhoeddus ryngwladol.
Bellach yn eu 22ain flwyddyn, mae gwobrau blynyddol HOSCAR yn cydnabod yr hostelau ieuenctid gorau ledled y byd. Gyda dros 4,000 o hosteli ieuenctid cydnabyddedig ledled y byd, mae ennill HOSCAR yn dipyn o gamp.
Mae’r YHA Snowdon Pen-y-Pass yn ymuno â 132 o hosteli ieuenctid eraill sydd wedi cael eu henwi y gorau yn eu gwledydd eu hunain. Mae’r enillwyr eraill yn cynnwys Hostel Balmers yn y Swistir, Mango Mansion yn Puerto Rico, Octopus Resort yn Ffiji, a Paradise Garden yn Namibia.
Ac eithrio Antartica, gellir dod o hyd i hosteli ieuenctid ar bob cyfandir yn y byd. Maen nhw wedi cynnig llety fforddiadwy i unigolion, teuluoedd a grwpiau ledled y byd ers sefydlu’r Gymdeithas Hostelau Ieuenctid yn yr Almaen yn 1909. Sefydlwyd YHA yng Nghymru a Lloegr yn 1930 gyda’r hosteli cyntaf yng Nghymru yn agor yr un flwyddyn.
Mae YHA (Cymru a Lloegr), sef elusen ieuenctid a theithio flaenllaw, wedi bod yn berchen ar YHA Snowdon Pen-y-Pass, yn ogystal â’i gweithredu, ers 1968. Heddiw, mae YHA Snowdon Pen-y-Pass yn un o 23 hostel yng Nghymru – oddeutu 15% o rwydwaith yr elusen.
Dywedodd Abigail Freeman, rheolwr YHA Snowdon Pen-y-Pass: “Mae’r tîm a minnau wrth ein bodd ein bod wedi ennill yr wobr. Mae’n wych cael cydnabyddiaeth yn yr HOSCARS. Dyma’r gwobrau gorau o ran hosteli ieuenctid a theithio.
“Rydyn ni’n croesawu miloedd o westeion bob blwyddyn i’r hostel, o Gymru, Lloegr ac yn rhyngwladol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwobr ddiweddaraf yn dod â ni at sylw hyd yn oed mwy o bobl ac y byddan nhw’n ymweld â’n hostel ieuenctid arbennig yn y rhan hyfryd hon o’r byd ac yn profi ein croeso Cymreig cynnes.”
Fel rhan o’r croeso Cymreig cynnes yn yr hostel ieuenctid, yn ddiweddar cyhoeddodd YHA Snowdon Pen-y-Pass arddangosfa ddwyieithog yn y dderbynfa. Mae’r arddangosfa, a ariennir gan Gronfa Gymunedol Cymunedau Eryri, yn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy drwy rannu gwybodaeth am lwybrau cerdded lleol llai adnabyddus, lleoedd i ymweld â nhw, a chymunedau lleol, yn ogystal â chyngor ar sut i fwynhau gweithgareddau ym Mharc Cenedlaethol Eryri mewn ffordd gyfrifol.
Yn ogystal â’r arddangosfa, mae YHA wedi ariannu a gosod arwyddion dwyieithog newydd ar gyfer canfod y ffordd yn yr hosteli ieuenctid.
I drefnu aros mewn ystafell breifat neu ystafell a rennir yn YHA, Snowdon Pen-y-Pass.