Mae Sarah Murphy, Gweinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, wedi canmol ymrwymiad YHA (Cymru a Lloegr) i hygyrchedd a chynaliadwyedd amgylcheddol ac ariannol yn ystod ymweliad â hostel ieuenctid Bannau Brycheiniog yr elusen.
Mae’r hostel wedi buddsoddi £40,000 i wneud y safle’n fwy hygyrch ac eco-gyfeillgar. Cyfarfu’r gweinidog, sydd newydd gael ei phenodi i’r swydd, â rheolwr yr hostel ieuenctid, Jane Barber a’i thîm, wrth iddi ymweld â’r cyfleusterau newydd i ymwelwyr sydd wedi eu cyllido gan Gronfa Pethau Pwysig Croeso Cymru.
Dyfarnodd cronfa’r llywodraeth, a weinyddir gan Gyngor Sir Powys, £32,000 i’r hostel yn gynharach eleni. Mae’r cyllid wedi cael ei fuddsoddi mewn mesurau cynaliadwyedd pwysig i helpu’r hostel i leihau ei ôl troed carbon yn y Parc Cenedlaethol yn ogystal â denu gwesteion newydd i’r safle.
Cyfrannodd YHA £8,000 arall at y cyllid grant, gan alluogi’r hostel ieuenctid i fuddsoddi cyfanswm o £40,000 mewn nifer o welliannau i’r safle, gan gynnwys:
- Lloches feiciau CycleHoop newydd gyda chloeon a lle i wefru beiciau trydan
- Pwynt gwefru cerbydau trydan yn y maes parcio ar gyfer gwesteion
- Gwella hygyrchedd ar y safle drwy greu arwynebau gwastad a llwybrau at ardaloedd picnic a gwersylla, a’r maes parcio
- Ffensys pren rhwng y man picnic a’r rhodfa
- Gosod goleuadau solar ar y ffordd fynediad
Dywedodd Sarah Murphy, sydd hefyd yn Weinidog Twristiaeth Llywodraeth Cymru: “Mae’r ychwanegiadau gwych hyn yn YHA Bannau Brycheiniog yn rhan o fuddsoddiad sy’n werth £5 miliwn dan yr enw ‘y Pethau Pwysig’ gan Lywodraeth Cymru, mewn amrywiaeth o fesurau a fydd yn helpu i ddarparu profiad mwy gwyrdd a hygyrch i ymwelwyr ar gyfer pobl sy’n dewis mynd ar wyliau yng Nghymru.
“Mae prosiectau fel hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Mae gan fwynderau ran fawr i’w chwarae o ran gwneud taith yn un gofiadwy, ac er nad yw pobl yn aml yn sylwi ar y mathau hyn o gyfleusterau, maent yn rhan bwysig o brofiad ymwelydd. Mae’n wych gweld YHA yn gyrru cynaliadwyedd ymlaen nid yn unig iddyn nhw eu hunain, ond i’w hymwelwyr hefyd.”
Bydd gosod mannau gwefru ceir a beiciau trydan yn galluogi YHA Bannau Brycheiniog i ateb y galw cynyddol gan westeion sy’n ymweld â’r hostel mewn ceir trydan ac ar feiciau trydan. Yn ogystal, bydd gan y lloches feiciau ddiogel newydd do bywlysiau ecogyfeillgar a fydd yn cyfrannu at fioamrywiaeth yr ardal.
Bydd gwesteion sy’n ei chael hi’n anodd i symud a defnyddwyr cadair olwyn hefyd yn cael gwell darpariaeth gan yr hostel wrth i lwybrau ac arwynebau gwastad gael eu gosod o gwmpas yr hostel a’r ardal wersylla.
Mae dros 12,000 o arosiadau dros nos yn cael eu trefnu yn yr hostel bob blwyddyn. Y gobaith nawr yw y bydd ychwanegu’r cyfleusterau cerbydau trydan newydd, storio beiciau’n ddiogel a gwella hygyrchedd yn helpu YHA Bannau Brycheiniog i ehangu ei apêl i fwy o westeion.
Nod Cronfa’r Pethau Pwysig yw gwella seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ym mhob rhan o Gymru er mwyn sicrhau bod pawb sy’n ymweld â’r wlad yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy drwy gydol pob agwedd ar eu harhosiad.
Dywedodd Jane Barber, rheolwr yr hostel: “Roedd yn wych croesawu’r gweinidog i’r hostel a dangos yr ychwanegiadau newydd i’r safle. Rydym yn hynod ddiolchgar am gyllid y Pethau Pwysig yn YHA Banciau Brycheiniog. Mae wedi gwneud gwahaniaeth ar unwaith i’r hostel ieuenctid, a fydd nid yn unig yn cael effaith gadarnhaol ar y miloedd o westeion sy’n aros gyda ni bob blwyddyn ond hefyd ar gynaliadwyedd ariannol yr hostel yn y tymor hwy, gan y byddant yn ein galluogi i ddenu mwy o westeion i aros gyda ni.”
Mae YHA Bannau Brycheiniog, sydd ym mhentref Libanus, wrthlaw’r porth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac wrth droed Pen-y-Fan – y copa uchaf yn ne Cymru. Mae’r hostel ieuenctid wedi bod yn gyrchfan boblogaidd i gerddwyr, beicwyr, gwersyllwyr a grwpiau ers dros 50 mlynedd. Yn ogystal ag ystafelloedd gwely y tu mewn i’r adeilad sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, mae yno bodiau tir, podiau glampio a gwersyllfa ar dir yr hostel.
Mae gan Gymru le arbennig yn hanes y Gymdeithas Hostelau Ieuenctid dros y 94 mlynedd ddiwethaf. Neuadd Pennant yng ngogledd Cymru oedd safle’r hostel arbrofol gyntaf i bobl ifanc ac yno y bu grŵp o’r Gymrodoriaeth Gwyliau yn Lerpwl yn treialu syniadau am hosteli i bobl ifanc yr oeddent nhw wedi eu profi yn yr Almaen yn 1929 cyn i YHA gael ei sefydlu’n ffurfiol y flwyddyn ganlynol.
Heddiw, mae 23 o hosteli ieuenctid yng Nghymru, a phob un yn cynnig llety fforddiadwy, gan gynnwys ystafelloedd preifat a rhai a rennir yn ogystal â gwersylla a chabanau. Gallwch hefyd archebu hostel ieuenctid gyfan.
I drefnu arhosiad mewn hostel ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, ewch i yha.org.uk.