Cronfa Cymunedau Eryri (CCE) yn ariannu arddangosfeydd mewn chwe hostel
Mae rhinweddau arbennig Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r elusen flaenllaw yr YHA (Cymru a Lloegr) wedi dod yn fyw mewn cyfres o arddangosfeydd dwyieithog mewn chwe hostel ieuenctid yn y Parc Cenedlaethol.
Disgwylir i dros 60,000 o bobl weld yr arddangosfeydd bob blwyddyn, sydd wedi cael eu hariannu gan Gronfa Cymunedau Eryri (CCE).
Mae’r arddangosfeydd dwyieithog i’w gweld yn hosteli ieuenctid yr YHA, sef YHA Snowdon Pen-y-Pass, YHA Snowdon Ranger, YHA Snowdon Llanberis, YHA Idwal Cottage, YHA Rowen a YHA Conwy sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.
Mae’r arddangosfeydd yn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy, yn unol â Chynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, ac maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am lwybrau cerdded lleol llai adnabyddus, lleoedd i ymweld â nhw, a chymunedau lleol, yn ogystal â chyngor ar sut i fwynhau gweithgareddau ym Mharc Cenedlaethol Eryri mewn ffordd gyfrifol.
Yn ogystal â’r byrddau arddangos, mae YHA wedi ariannu a gosod arwyddion dwyieithog newydd ar gyfer canfod y ffordd ym mhob un o’r hosteli ieuenctid.
Bu YHA yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gasglu’r wybodaeth ar gyfer y byrddau sy’n ceisio arfogi ymwelwyr â’r hosteli a’r ardal ieuenctid yn well gyda’r wybodaeth i’w galluogi i ofalu am yr hyn sydd o’u cwmpas, parchu’r dirwedd a’r preswylwyr er budd Eryri a’i chymunedau.
Dywedodd Gwenno Llwyd Jones, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ym Mharc Cenedlaethol Eryri: “Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio ag YHA i lunio byrddau gwybodaeth newydd ar gyfer ymwelwyr â hostel, gan dynnu sylw at dreftadaeth gyfoethog a rhinweddau unigryw Eryri i bawb eu gwerthfawrogi.”
Lluniwyd gwybodaeth am y byrddau gan Uwch Reolwr Cyfathrebu’r YHA, sef Sally Nutland a ddaeth, fel rhan o’r gwaith, yn Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri ar lefel Efydd. Mae Sally bellach yn ymuno â chymuned o dros 600 o lysgenhadon Eryri sydd i gyd wedi ymrwymo i chwarae rhan yn y gwaith o warchod y Parc Cenedlaethol am genedlaethau i ddod.
Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o fod yn Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd casglu’r wybodaeth ar gyfer y byrddau arddangos yn brosiect pleserus iawn a rhoddodd wir werthfawrogiad i mi o’r mannau hardd y mae’r hosteli ieuenctid ynddyn nhw a hefyd y cymunedau sydd o’u cwmpas.
“Roedd yn bwysig i mi bod pob un o’r byrddau arddangos yn adlewyrchu treftadaeth, iaith a chymuned yr ardaloedd lleol, gan fy mod am iddyn nhw apelio at ymwelwyr a rhoi ymdeimlad o le iddyn nhw, yn ogystal â chryfhau cysylltiadau rhwng yr hosteli ieuenctid unigol a’u cymunedau lleol.”
Mae’r prosiect yn adeiladu ymhellach ar strategaeth Cymru yr YHA, a lansiwyd yn y Senedd yn 2022. Fel rhan o’r strategaeth, addawodd yr YHA gryfhau rôl ei hostelau o ran dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru.
Gan gydnabod mai Gogledd Cymru sydd â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad, mae’r byrddau arddangos hefyd yn cefnogi cynllun Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg ac yn ategu’r croeso Cymreig cynnes a gyflwynwyd yn ddiweddar i hosteli’r YHA. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae’r YHA yn gwella’r hyfforddiant iaith Gymraeg y mae staff yn ei dderbyn er mwyn croesawu’r holl westeion i’r hostelau yn Gymraeg.
Mae gan Barc Cenedlaethol Eryri a Chymru le arbennig yn hanes 94 mlynedd yr YHA. Neuadd Pennant yng Ngogledd Cymru oedd safle’r hostel arbrofol gyntaf i bobl ifanc ac roedd yn lleoliad ar gyfer grŵp o’r Gymrodoriaeth Gwyliau yn Lerpwl i dreialu’r syniadau am hosteli i bobl ifanc yr oedden nhw wedi’u profi yn yr Almaen yn 1929 cyn i’r YHA gael ei sefydlu’n ffurfiol y flwyddyn ganlynol.
Heddiw, mae 23 o hosteli ieuenctid yng Nghymru, a phob un yn cynnig llety fforddiadwy, gan gynnwys ystafelloedd preifat a rhai a rennir yn ogystal â gwersylla a chabanau. Gallwch hefyd archebu hostel ieuenctid gyfan.
I drefnu aros mewn hostel ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, ewch i www.yha.org.uk.
Discover more about YHA.