Select Page

Arddangosfeydd hostel newydd yn dathlu perthynas arbennig yr YHA gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a’r cymunedau cyfagos

Cronfa Cymunedau Eryri (CCE) yn ariannu arddangosfeydd mewn chwe hostel

Mae rhinweddau arbennig Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri a’r elusen flaenllaw yr YHA (Cymru a Lloegr) wedi dod yn fyw mewn cyfres o arddangosfeydd dwyieithog mewn chwe hostel ieuenctid yn y Parc Cenedlaethol.

Disgwylir i dros 60,000 o bobl weld yr arddangosfeydd bob blwyddyn, sydd wedi cael eu hariannu gan Gronfa Cymunedau Eryri (CCE).

Matthew Teasdale & Gwenno Llwyd Jones & Abbie Freeman with the new display

Mae’r arddangosfeydd dwyieithog i’w gweld yn hosteli ieuenctid yr YHA, sef YHA Snowdon Pen-y-Pass, YHA Snowdon Ranger, YHA Snowdon Llanberis, YHA Idwal Cottage, YHA Rowen a YHA Conwy sydd ym Mharc Cenedlaethol Eryri.

Mae’r arddangosfeydd yn hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy, yn unol â Chynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol, ac maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am lwybrau cerdded lleol llai adnabyddus, lleoedd i ymweld â nhw, a chymunedau lleol, yn ogystal â chyngor ar sut i fwynhau gweithgareddau ym Mharc Cenedlaethol Eryri mewn ffordd gyfrifol.

Yn ogystal â’r byrddau arddangos, mae YHA wedi ariannu a gosod arwyddion dwyieithog newydd ar gyfer canfod y ffordd ym mhob un o’r hosteli ieuenctid.

Bu YHA yn gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i gasglu’r wybodaeth ar gyfer y byrddau sy’n ceisio arfogi ymwelwyr â’r hosteli a’r ardal ieuenctid yn well gyda’r wybodaeth i’w galluogi i ofalu am yr hyn sydd o’u cwmpas, parchu’r dirwedd a’r preswylwyr er budd Eryri a’i chymunedau.

Dywedodd Gwenno Llwyd Jones, Swyddog Ymgysylltu â’r Gymuned ym Mharc Cenedlaethol Eryri: “Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio ag YHA i lunio byrddau gwybodaeth newydd ar gyfer ymwelwyr â hostel, gan dynnu sylw at dreftadaeth gyfoethog a rhinweddau unigryw Eryri i bawb eu gwerthfawrogi.”  

Lluniwyd gwybodaeth am y byrddau gan Uwch Reolwr Cyfathrebu’r YHA, sef Sally Nutland a ddaeth, fel rhan o’r gwaith, yn Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri  ar lefel Efydd. Mae Sally bellach yn ymuno â chymuned o dros 600 o lysgenhadon Eryri sydd i gyd wedi ymrwymo i chwarae rhan yn y gwaith o warchod y Parc Cenedlaethol am genedlaethau i ddod.

Dywedodd: “Rwy’n falch iawn o fod yn Llysgennad Parc Cenedlaethol Eryri. Roedd casglu’r wybodaeth ar gyfer y byrddau arddangos yn brosiect pleserus iawn a rhoddodd wir werthfawrogiad i mi o’r mannau hardd y mae’r hosteli ieuenctid ynddyn nhw a hefyd y cymunedau sydd o’u cwmpas.

“Roedd yn bwysig i mi bod pob un o’r byrddau arddangos yn adlewyrchu treftadaeth, iaith a chymuned yr ardaloedd lleol, gan fy mod am iddyn nhw apelio at ymwelwyr a rhoi ymdeimlad o le iddyn nhw, yn ogystal â chryfhau cysylltiadau rhwng yr hosteli ieuenctid unigol a’u cymunedau lleol.”

Mae’r prosiect yn adeiladu ymhellach ar strategaeth Cymru yr YHA, a lansiwyd yn y Senedd yn 2022. Fel rhan o’r strategaeth, addawodd yr YHA gryfhau rôl ei hostelau o ran dathlu treftadaeth naturiol a diwylliannol Cymru.

Gan gydnabod mai Gogledd Cymru sydd â’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg yn y wlad, mae’r byrddau arddangos hefyd yn cefnogi cynllun Cynnig Cymraeg Comisiynydd y Gymraeg ac yn ategu’r croeso Cymreig cynnes a gyflwynwyd yn ddiweddar i hosteli’r YHA. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae’r YHA yn gwella’r hyfforddiant iaith Gymraeg y mae staff yn ei dderbyn er mwyn croesawu’r holl westeion i’r hostelau yn Gymraeg.

Mae gan Barc Cenedlaethol Eryri a Chymru le arbennig yn hanes 94 mlynedd yr YHA. Neuadd Pennant yng Ngogledd Cymru oedd safle’r hostel arbrofol gyntaf i bobl ifanc ac roedd yn lleoliad ar gyfer grŵp o’r Gymrodoriaeth Gwyliau yn Lerpwl i dreialu’r syniadau am hosteli i bobl ifanc yr oedden nhw wedi’u profi yn yr Almaen yn 1929 cyn i’r YHA gael ei sefydlu’n ffurfiol y flwyddyn ganlynol.

Heddiw, mae 23 o hosteli ieuenctid yng Nghymru, a phob un yn cynnig llety fforddiadwy, gan gynnwys ystafelloedd preifat a rhai a rennir yn ogystal â gwersylla a chabanau. Gallwch hefyd archebu hostel ieuenctid gyfan.

I drefnu aros mewn hostel ieuenctid yng Nghymru a Lloegr, ewch i www.yha.org.uk.

Discover more about YHA.

Donate to YHA

We provide life-changing adventures for those who need them most. Give today and you could help transform a young person’s confidence and ambition forever.

Written by YHA News Team

From fundraising projects to exciting announcements, our YHA news team share the latest updates on all things YHA.

You may also like

YHA NewsArddangosfeydd hostel newydd yn dathlu perthynas arbennig yr YHA gyda Pharc Cenedlaethol Eryri a’r cymunedau cyfagos